Proverbs 24

1Paid cenfigennu wrth bobl ddrwg,
na bod eisiau cadw cwmni iddyn nhw.
2Dŷn nhw'n meddwl am ddim byd ond trais
a sut i wneud drwg i bobl eraill.
3Mae'n cymryd gallu i adeiladu tŷ,
a deall i osod seiliau cadarn iddo.
4Mae angen gwybodaeth i lenwi'r ystafelloedd
gyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd.
5Mae person doeth yn gryf,
a person deallus yn ddylanwadol.
6Mae angen strategaeth i ymladd brwydr,
a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth.
7Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;
does ganddo ddim i'w ddweud pan mae'r arweinwyr yn cyfarfod.
8Mae'r sawl sy'n cynllunio i wneud drwg
yn cael yr enw o fod yn gyfrwys.
9Mae castiau'r ffŵl yn bechod,
ac mae'n gas gan bobl berson sy'n gwawdio.
10Os wyt ti'n un i golli hyder dan bwysau,
mae gen ti angen mwy o nerth.
11Achub y rhai sy'n cael eu llusgo i ffwrdd i'w lladd!
Bydd barod i helpu'r rhai sy'n baglu i'r bedd.
12Os byddi di'n dweud, “Ond doedden ni'n gwybod dim am y peth,”
cofia fod yr Un sy'n pwyso'r galon yn gweld y gwir!
Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e'n gwybod;
a bydd pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu.
13Fy mab, bwyta fêl – mae'n dda i ti;
ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg.
14A'r un modd mae doethineb yn dda i ti.
Os wyt ti'n ddoeth, byddi'n iawn yn y diwedd;
a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
15Paid llechu fel lleidr tu allan i gartre dyn da;
a paid torri i mewn i'w dŷ.
16Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro,
ond byddan nhw'n codi ar eu traed;
tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.
17Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio;
paid bod yn falch os ydy e'n cael ei fwrw i lawr,
18rhag i'r Arglwydd weld y peth, a bod yn flin hefo ti;
wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb.
19Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;
paid bod yn genfigennus ohonyn nhw –
20does dim dyfodol iddyn nhw.
Mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.
21Fy mab, dylet ti barchu'r Arglwydd a'r brenin,
a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela.
22Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw;
pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?

Casgliad o ddywediadau doeth

23Dyma fwy o eiriau'r doethion:

Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da.
24Bydd barnwr sy'n gollwng yr euog yn rhydd
yn cael ei felltithio gan bobl,
a'i gondemnio gan wledydd;
25Ond bydd bywyd yn braf i'r un sy'n barnu'n deg;
bydd e'n cael ei fendithio'n fawr.
26Mae rhoi ateb gonest
fel cusan ar y gwefusau.
27Rho drefn ar dy waith tu allan,
a chael y caeau'n barod i'w plannu,
ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ.
28Paid rhoi tystiolaeth yn erbyn rhywun heb achos da;
a paid camarwain pobl.
29Paid dweud, “Dw i'n mynd i dalu'r pwyth yn ôl!
Bydda i'n dial arno am beth wnaeth e.”
30Roeddwn i'n pasio heibio cae y dyn diog,
a gwinllan un sydd heb sens;
31Roedd drain wedi tyfu drosto,
a chwyn ym mhobman,
a'r wal gerrig o'i gwmpas wedi syrthio.
32Wrth edrych a meddwl am y peth,
roedd beth welais i yn dysgu gwers i mi:
33“Ychydig bach mwy o gwsg;
pum munud arall!
Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”
34Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;
bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog.
Copyright information for CYM